sundance renewables
watts on
SUNDANCE IS A NON PROFIT TAKING, WORKER OWNED CO-OPERATIVE FOR RENEWABLE ENERGY AND SUSTAINABILITY
AMDANON NI
 
PROFFIL SUNDANCE

DDIM AM PROFFID?

GWYBODAETH AM GWMN�OEDD CYDWEITHREDOL

MATHAU O GWMN�OEDD CYDWEITHREDOL

SAFLE AROLWG A MORDWYAETH

BETH YW YNNI ADNEWYDDADWY?
 
FFRINDIAU SUNDANCE
 
DIOLCHIADAU
corner


GWYBODAETH YNGLYN  � CHWMN�OEDD CYD-WEITHREDOL

Mae cwmn�oedd cydweithredol yn rhyngwladol ac mae na sawl math gwahanol ohonynt. Er eu bod o bosib yn cael eu trefnu mewn gwahanol ffyrdd, maent yn rhannu�r �run egwyddorion, gwerthoedd a moesegau sydd yn darparu arweiniad ar sut y dylasent weithredu. Gellid cael hyd i linciau i'r sefydliadau o fewn y symudiad cydweithredol fan hyn.

Mae cwmn�oedd cydweithredol yn cael eu trefnu gyda chyfeiriad i'r gwerthoedd canlynol:
 

  • Hunan-gymorth

  • Hunan-gyfrifoldeb

  • Democratiaeth

  • Cydraddoldeb

  • Ecwiti (tegwch)

  • Cydymddibyniad

Mae'r gwerthoedd yma�n adlewyrchu'r gwerthoedd moesegol canlynol:

  • Gonestrwydd

  • Didwylledd

  • Cyfrifoldeb cymdeithasol

  • Gofalu am eraill

Mabwysiadwyd yr egwyddorion canlynol gan �Cyngres Canmlwyddiant Cyngrhair Cyd-weithiol Rhyngwladol 1995.' Maent yn adlewyrchu sut mae'r gwerthoedd cydweithredol yn cael eu ymarfer.

1. Aelodaeth agored a gwirfoddol- mae cwmnoedd cydweithredol yn sefydliadau gwirfoddol sy�n agored i bawb, sydd yn gallu defnyddio'u oedfeuon ac yn fodlon i dderbyn y cyfrifoldebau aelodaeth heb anffafriaeth rhyw, cymdeithasol, hiliol, gwladwriaethol neu crefyddol.

 

2. Rheolaeth aelod democrataidd � mae cwmnoedd cydweithredol yn sefydliadau a�u rheolwyd gan eu haelodau sydd yn cyfranogi'n weithredol, yn creu polisau a gwneud dewisiadau. Mae menywod a dynion sydd yn gwasanaethu fel cynrychiolwyr dewisedig yn atebol i�w haelodau. Yn gwmnoedd cydweithredol cynradd, mae aelodau yn cael hawliau cyfartal i bleidleisio (un aelod un pleidlais) Trefnid cwmnoedd cydweithredol ar lefelau eraill mewn ffordd democratig hefyd.

 

3. Cyfranogaeth economaidd aelod - mae aelodau�n cyfrannu'n gyfartal i, ac yn rheoli'n ddemocrataidd, cyfalaf eu cydweithrediad. Mae aelodau fel arfer yn derbyn digollediad cyfyngedig, os o gwbl, ar y cyfalaf tanysgrifio fel amod aelodaeth. Mae aelodau yn neilltuo unrhyw weddillion at unrhyw un o'r dibenion canlynol: datblygu eu cydweithrediad, gan efallai sefydlu gwarchodfeydd, bydd o leiaf rhan o hynny'n anrhanadwy; yn buddio'r aelodau mewn cyfartaledd a�u ymrwymiad �r cydweithrediad; ac yn cefnogi gweithgareddau eraill a chymeradwyd gan yr aelodaeth.

 

4. Annibyniaeth a hunan llywodraethu - mae cwmnioedd cyd-weithredol yn awtonomaidd, hunan-gynhaliol a rheolir gan eu haelodau. Os ydynt yn mynd i gytundeb � chyfluniannau eraill, gan gynnwys llywodraethau, neu�n codi elw o ffynonellau allanol, maen nhw'n gwneud hynny ar dermau sy'n sicrhau rheolaeth ddemocrataidd gan yr aelodau ac yn cynnal eu hannibyniaeth cydweithredol.

 

5. Gwybodaeth, hyfforddiant ac addysg - mae cwmnoedd cydweithredol yn darparu hyfforddiant ac addysg i�w haelodau, cynrychiolwyr dewisedig, a gweithwyr fel bod modd iddynt gyfrannu�n effeithiol i ddatblygiad eu cwmni cydweithredol. Maent yn  hysbysu'r cyhoedd- yn enwedig pobl ifanc ac arweinwyr barn � ynglŷn � buddiannau�r cydweithrediad.

 

6. Cydweithrediad rhwng cydweithwyr - mae cydweithwyr yn gwasanaethu�r aelodau fwyaf effeithiol drwy cryfhau'r symudiad cydweithredol wrth gweithio gyda'i gilydd drwy strwythurau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol a rhyngwladol.

 

7. Pwyslais ar y gymuned - mae cwmnoedd cydweithredol yn gweithio ar ddatblygiad cynaladwyol eu cymuned trwy bolisĩau a gytunwyd gan yr aelodau.

 


Mae mwy o wybodaeth am y gyfathrach cydweithrediad rhyngwladol a chydweithredai yn gyffredinol ar gael ar y safle we  www.coop.org

 

corner
footer   ©  Sundance Renewables 2002. E&OE. Last updated February 2008
Website designed using 100% solar power by
Ecoworks