Gweithwyr cydweithredol yw�r cwmn�oedd sy'n eiddo i, ac yn cael eu rhedeg
gan y pobl sy'n gweithio ynddynt. Mae'r gweithwyr yn rhannu'r cyfrifoldebau a'r
gwobrwyon, ac yn aml mae cydweithredau'n darparu amgylchedd mwy diogel na
hunangyflogaeth. Mae sefydlu cwmni cydweithredol yn gallu arlwyo arall-ddewis i
di-gyflogaeth neu'r caead o cwmni, a ffordd i ddechrau menter newydd.
Mae Gwasanaethau neu Masnachau cydweithredol yn hunan cynhyrchu
gwasanaethau neu nwyddau ar rhan eu aelodau. Mae�r rhain yn fodd i cwmn�oedd
bach ddod at ei gilydd i ymgymryd � prosiectau ni fedrent rheoli eu hunain.
Mae Bwydydd cydweithredol yn galluogi pobl i brynu bwyd yn rhatach, ac o
well ansawdd gan ddefnyddio'u pw�rau prynu. Gall hwn fod yn lysiau oddi wrth
cyfanwerthwyr, bwydydd holliach� neu eitemau sylfaenol a ellir eu prynu�n
rhatach drwy swmp brynu.
Mae Tai Cydweithredol yn darparu tai ar gyfer eu aelodau, a rheolwyd gan
y bobl sydd yn byw ynddynt. Maent yn aml yn darparu tai ar gyfer pobl sydd �
blaenoriaeth isel gydag awdurdodau lleol neu pobl nad ydynt yn gymwys i gael,
neu sydd ddim eisiau cymryd morgais.
Mae busnesau cymunedol yn perthyn i ac yn cael eu rhedeg gan y bobl yn y
gymuned. Fel arfer, fe�i sefydlwyd i ddarparu cyfleuster neu gwasanaeth sydd o
lles i'r gymuned. Eu amcan yw cynnal eu hunan drwy cynhyrchu incwm o'r
gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Mae hwn o bosib yn gwella'r
amgylchedd lleol, cynnig hyfforddiant neu cyfleon cyflogaeth, neu efallai
darparu gwasanaeth prin mewn ardal lle bo galw amdano. Defnyddir unrhyw broffid
i gryfhau'r busnes neu er mwyn darparu gwasanaethau pellach i'r cymuned.
Mae Cynllun masnachu cyfnewid lleol yn helpu eu aelodau i brynu
gwasanaethau a nwyddau oddi wrth ei gilydd, gan ddefnyddio arian cyfred lleol
neu tocyn yn lle arian. Mae pobl yn gallu cynnig neu ceisio gwasanaethau drwy
cyfarwyddiadur LETS lleol. Mae'n galluogi pobl i brynu oddi wrth ei gilydd heb
mynd i ddyled.
Undebau credyd yw cynlluniau cynilio a benthyg a�u gweithredwyd gan y
bobl sydd yn eu defnyddi, ac yn cynnig credyd fforddiadwy i�w aelodau. Mae nhw'n
arallddewis i fenthycion drud ac yn annog pobl i gynilo�n rheolaidd, hyd yn oed
os ydyw'n swm bach.
Mae Cwmn�oedd Cymdeithasol yn rhoi blaenoriaeth i
bobl a fydd yn ei chael yn arbennig o anodd i ddod o hyd i gyflogaeth. Efallai y
byddant yn arbenigo mewn darparu cyfleoedd ar gyfer pobl ag anabledd dysgu, neu
sy�n dioddef o salwch.