Yn
bresennol, mae'r byd yn ddibynnol ar l�, olew a nwy naturiol am eu ynni-
tanwydd ffosil sydd yn anadnewyddadwy. Mae'r tanwyddau yma�n tynnu ar adnoddau
meidrol y ddaear a fydd yn rhedeg mas yn y pen draw, yn mynd yn gynyddol o
ddrud ac yn rhy niweidiol amgylcheddol i echdynnu fel bo'r amser yn mynd
ymlaen.
Erbyn hyn
mae�n cael ei gydnabod yn fyd-eang bod y defnydd o danwydd ffosil yn cyfrannu at
gynhesu byd-eang a newidiadau hinsawdd. Mae ynni adnewyddadwy � solar, gwynt,
hidro (dwr), biomass � yn ailgyflenwi'n wastad a byth yn rhedeg mas. Mae
rhan fwyaf o ynni adnewyddadwy fel arfer yn dod yn syth neu'n anuniongyrchol o'r
haul.
Gall
ddefnyddio ynni solar i gynhyrchu trydan yn uniongyrchol, gwresogi dwr
twym a oeri solar, ac mae'n addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau domestig,
masnachol neu diwydiannol.
Mae gwres yr
haul yn creu'r gwynt, ac mae'r ynni gwynt yn cael ei ddal gan tyrbinau
sydd yn cynhyrchu trydan.
Mae heulwen
hefyd yn helpu planhigion i dyfu. Mae'r mater organig a dyfwyd gan blanhigion yn
cael ei adnabod fel 'biomass'. Gellir ddefnyddio�r biomass yma i
gynhyrchu trydan, gwres a thanwyddau cerbyd fel bio-diesel.
Mae'r ynni o
ddwr yn dylifo trwy'r afonydd a'r nentydd yn dod o'r haul � mae'r cylchredau
'hydrological' yn cael eu trawsyrru gan anweddiad � ac mae modd ei ddefnyddio i
gynhyrchu pw�r drwy tyrbinoedd dwr, felly�n cynhyrchu trydan-hydro.
Cynhyrchwyd
pw�r tonnau gan y gwynt, sydd wedi ei greu gan wres o'r haul, ond y mae
pw�r y llanw�n cael ei drawsyrru gan ynni disgyrchiant sy�n cael ei
effeithio gan crynswth yr haul.
Ymwelwch �'n
adran dysgu'n fyw am fanylion mwy
manwl ynglŷn �r gwahanol mathau o ynni adnewyddadwy, sut y c�nt eu defnyddio
a'r pwysigrwydd o ynni effeithlon.